Mae hanner adeilad cwmni ceir trydan Tesla yn Sussex wedi cael ei ddinistrio yn dilyn tân.
Mae diffoddwyr wedi llwyddo i reoli’r tân ar y safle yn Crawley, ac maen nhw’n dweud iddo gael ei gynnau’n ddamweiniol mewn stordy.
Mae lle i gredu na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.
Dywed llygad-dystion fod nifer o ffrwydradau yn yr adeilad cyn y tân.
Fe fu hyd at 50 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y fflamau.
Cyhoeddodd y cwmni o Silicon Valley yn ddiweddar y bydd ceir yn cael eu gwerthu ar y we yn unig, sy’n golygu y gallai nifer o’i safleoedd yng ngwledydd Prydain gau.
Dydy union nifer y swyddi sydd yn y fantol ddim wedi cael ei gadarnhau.