Wrth gyfarfod ag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, mae Theresa May wedi mynnu heddiw (dydd Llun, Chwefror 25) ei bod yn gwrthwynebu ymestyn Erthygl 50 er mwyn caniatáu rhagor o amser i drafod y cytundeb Brexit.

Er ei bod yn wynebu pwysau gan Geidwadwyr sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), dywedodd y Prif Weinidog wrth Ganghellor yr Almaen Angela Merkel ei bod hi’n credu y gellir dod i gytundeb cyn y dyddiad ymadael a’r UE ar Fawrth 29.

Cafodd yr awgrym i ymestyn Erthygl 50, a fyddai’n cadw gwledydd Prydain yn rhan o’r UE y tu hwnt i Fawrth 29, ei drafod yn ystod y cyfarfod rhwng y ddau arweinydd sy’n mynychu uwchgynhadledd yn yr Aifft.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol bod Erthygl 50 wedi cael ei drafod “am gyfnod byr” yn ystod y cyfarfod gydag Angela Merkel a bod y Prif Weinidog o’r farn y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at “ohirio penderfyniadau”.

Mae disgwyl i Theresa May hefyd gynnal trafodaethau gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, a Phrif Weinidog Iwerddon, Leo Varadkar ddydd Llun.

Daw’r trafodaethau ar ôl i Theresa May gyfaddef na fydd ganddi gytundeb Brexit mewn pryd ar gyfer pleidlais yr wythnos hon.

Mae hi wedi dweud y bydd hi’n cyflwyno ei chynlluniau diwygiedig i’r Senedd cyn Mawrth 12.