Fe fydd cyfraith newydd ar ddefnydd droniau o gwmpas meysydd awyr yn cael ei chyflwyno fis nesaf, ac o ganlyniad, fe fydd hi’n anghyfreithlon eu hedfan o fewn 5km i unrhyw faes awyr.
O dan y gyfraith bresennol, mae hawl gan ddefnyddwyr hedfan eu drôn o fewn cilomedr i lanfa.
Er mwyn ceisio lleihau’r camddefnydd o ddrôns, mae Llywodraeth Prydain hefyd yn cydweithio gyda’r cwmni ffotograffiaeth Jessops, sy’n addo sicrhau y bydd ei gwsmeriaid yn ymwybodol o’r rheolau newydd.
Fe dyfodd pryder ynghylch y camddefnydd o droniau ar ôl i deithwyr gael eu heffeithio o gwmpas y Nadolig wrth i’r dyfeisiau ymddangos mewn meysydd awyr ledled gwledydd Prydain. Cafodd awyrennau eu rhwystro rhag codi i’r awyr am dros 36 awr yn Gatwick.
Yn ystod 2018, fe fu 125 achos ble’r oedd drôn wedi dod yn agos at daro awyren, sy’n gynnydd o 34% ar y cyfanswm o 93 yn 2017.