Mae teigr Sumatra benywaidd yn Sŵ Llundain wedi cael ei lladd gan ddarpar gymar gwrywaidd newydd wrth i’r ddau gael eu rhoi gyda’i gilydd am y tro cyntaf.

Cafodd Melati, 10 oed, ei llarpio gan Asim, 7 oed, er i’r ddau ddangos “arwyddion amlwg cadarnhaol” pan oedden nhw yng ngolwg ei gilydd mewn trigfannau cyfagos dros y 10 diwrnod ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y sŵ fod y staff yn dorcalonnus wedi’r digwyddiad.

“Mae dod ag unrhyw gathod mawr at ei gilydd, waeth pa mor drylwyr yw’r paratoadau, bob amser yn risg uchel,” meddai.

“Pan agorwyd y drws i’r ddau allu dod at ei gilydd, roedd y ddau deigr yn betrusgar ar y cychwyn, ond buan y gwnaeth y chwarae droi’n chwerw.

“Er gwaethaf defnyddio sŵn uchel, fflachiadau a larymau, roedd hi’n rhy hwyr erbyn i’r ddau gael eu gwahanu.”

Roedd Asim wedi cael ei symud i’r sŵ o barc saffari yn Nenmarc ddiwedd y mis diwethaf fel rhan o raglen gadwriaethol Ewropeaidd.

Mae teigrod Sumatra yn cael eu disgrifio fel rhai mewn perygl argyfyngus gan y WWF, sy’n amcangyfrif bod llai na 400 yn y gwyllt.