Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu i farwolaeth yn ardal Battersea yn Llundain neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 5).

Cafodd y bachgen, 19, ei ganfod gan yr heddlu toc cyn 8yh yn Wolsey Court, a hynny yn sgil adroddiadau o drywanu.

Bu farw yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion gan barafeddygon i’w achub.

Cafodd y ddau sydd yn y ddalfa eu harestio ar ôl cyflwyno eu hun i ysbyty yn y ddinas, meddai’r heddlu.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.