Mae technoleg arbennig yn helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i driniaeth ar gyfer canser y pancreas.
Mae’r dechnoleg wedi cael ei datblygu gan Sefydliad Francis Crick yn Llundain, ac mae’n dibynnu ar samplau meinwe yn cael eu hastudio mewn modelau 3D.
Maen nhw wedi darganfod fod y math hwn o ganser, sydd ymhlith y rhai mwyaf anodd i’w canfod a’u trin, yn gallu datblygu mewn dwy ffordd.
Llai na 7% o bobol sydd yn cael diagnosis o ganser y pancreas sy’n byw am fwy na phum mlynedd.
O astudio’r ddwy ffordd y gall y canser ddatblygu, mae’n bosib y gallai gwyddonwyr ddod o hyd i driniaeth ar eu cyfer.