Mae un o siopau Morrisons yng Nghymru yn rhan o gynllun peilot gan y cwmni i gynyddu pris bagiau plastig hir oes i 15c a chyflwyno bagiau papur gwerth 20c.
Yn ôl y cwmni ei hun, bydd y cynllun yn cael ei dreialu dros gyfnod o wyth wythnos mewn wyth o ganghennau, gan gynnwys yr un yn y Fenni, Sir Fynwy.
Y gweddill yw’r canghennau yn Camden, Skipton, Wood Green, Hunslet, Yeadon, Eskine a Gibraltar.
Dyw Morrisons ddim wedi gwerthu bagiau plastig ‘untro’ ers dechrau 2018, cam a arweiniodd at 25% o gwymp yng ngwerthiant y cwmni o ran bagiau siopa, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Cafodd treth o 5c ar fagiau o’r fath ei chyflwyno yng Nghymru yn 2011, gyda Lloegr wedyn yn dilyn yr un cam yn 2015.