Fe fydd yr SNP yn cyflwyno gwelliant i gynllun Theresa May, prif weinidog Prydain, mewn ymgais i ohirio’r broses Brexit.

Cafodd gwelliannau eu cyflwyno ddechrau’r mis i’r ddeddfwriaeth a gafodd ei gwrthod gan aelodau seneddol yn San Steffan o 230 o bleidleisiau.

Fe fydd y gwelliant nesaf, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Ian Blackford, yn pwysleisio bod Senedd yr Alban, y Cynulliad yng Nghymru a San Steffan i gyd wedi gwrthod ei chynllun.

Fe fydd y gwelliant hefyd yn ceisio ymestyn Erthygl 50, galw am wfftio dim cytundeb, a mynnu na ddylid gorfodi’r Alban i adael yr Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniadau’r bobol.

Bydd yr SNP hefyd yn cefnogi gwelliannau Yvette Cooper a Dominic Grieve.

Byddai gwelliant Yvette Cooper yn gohirio Erthygl 50 os na fydd cytundeb erbyn diwedd mis Chwefror, tra byddai gwelliant Dominic Grieve yn rhoi’r grym i aelodau seneddol reoli agenda’r senedd am rai dyddiau cyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.

‘Rhaid newid trywydd’

“Gydag ond ychydig wythnosau cyn dyddiad Brexit, rhaid i’r Prif Weinidog newid trywydd cyn ei bod yn rhy hwyr,” meddai Ian Blackford.

“Mae’r Torïaid yn credu y gallan nhw wneud unrhyw beth maen nhw am ei wneud i’r Alban a chael rhwydd hynt i wneud hynny, ond yn yr wythnos hanfodol hon, rhaid peidio ag anwybyddu dymuniadau pobol yr Alban.

“Os yw’r DU, fel y mae’r Prif Weinidog yn mynnu, yn bartneriaeth hafal, yna mae’n rhaid iddi roi’r gorau i roi buddiannau asgell dde ei phlaid o flaen buddiannau pobol yr Alban.

“Er mwyn gwarchod swyddi a safonau byw, mae angen i ni stopio cloc Brexit a rhaid i’r Prif Weinidog roi’r gorau i’r bygythiad trychinebus o ddim cytundeb.”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain yn dweud ei bod yn “bryd i’r holl aelodau seneddol gefnogi cytundeb y Prif Weinidog”.

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Mawrth (Ionawr 29).