Carchar Wandsworth
 
Mae’r nifer yng ngharchardai Cymru a Lloegr wedi cynyddu bron i 300 mewn wythnos.

Golyga hyn fod y nifer dan glo wedi cynyddu am y pedwerydd wythnos yn olynol.

Dengys ffigyrau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder bod 87,501 yn y carchardai, sef rhyw 1,000 yn llai na’r capasiti.

Daw’r cynnydd yn y carcharorion oherwydd cosbau llym I’r rhai hynny fu’n gyfrifol am y terfysg yn Lloegr y mis diwetha’.

Ar gyfartaledd mae’r terfysgwyr wedi eu carcharu am 10.4 mis am anhrefn treisgar, o gymharu gyda 5.3 mis am yr un math o drosedd y llynedd.