Mae Comisiwn Ewrop am roi gwrandawiad i’r rhai sy’n gwrthwynebu cynllun Cyngor Sir Ddinbych i godi 1,700 o dai ym Modelwyddan, cam a fyddai’n treblu maint y pentref ger ffordd ddeuol yr A55.

Aeth Grŵp Ymgyrchu Bodelwyddan â deiseb i Senedd Ewrop i dynnu sylw at eu gwrthwynebiad, a chael gwahoddiad i fynd i Frwsel i egluro eu pryderon am y datblygiad.

“Rwy’n bles fod pryderon mawr y bobl leol wedi cael eu cydnabod a bydd Comisiwn Ewrop yn cydnabod y materion hyn ac yn craffu arnyn nhw,” meddai Jill Evans yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o Blaid Cymru.

“Dylai datblygiadau arfaethedig mewn cymunedau gael eu seilio ar angen lleol. Dylent hefyd gael eu cynllunio mewn ymgynghoriad â thrigolion y cymunedau hynny a rhaid iddyn nhw fod yn gynaliadwy, mewn ystyr amgylcheddol ac yng nghyd-destun eu heffaith ar iaith a chymdeithas.”