Mae Llywodraeth Sbaen a’r Deyrnas Unedig wedi arwyddo cytundeb sy’n sicrhau hawliau pleidleisio i’r dinasyddion sydd yn breswylwyr yn y ddwy wlad.

Mae’n golygu bydd y 300,000 o ddinasyddion Prydeinig sydd yn byw yn Sbaen, a’r 175,000 o Sbaenwyr sy’n byw ar ynysoedd Prydain a Gogledd Iwerddon yn gallu pleidleisio a sefyll yn etholiadau lleol y ddwy wlad ym mis Mai, meddai swyddogion.

Ni fydd canlyniad Brexit yn cael unrhyw effaith ar hyn.

Dywedodd gweinidog Brexit Prydain, Robin Walker – sydd wedi arwyddo’r cytundeb ym Madrid heddiw (Dydd Llun, Ionawr 21) bod y cytundeb y cyntaf o’i fath i Ynysoedd Prydain gydag aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Sbaen ar faterion yr UE, Marco Aguiriano, y bydd y cytundeb yn dod i rym gydag ymadawiad Prydain o’r UE, boed ar ddiwedd mis Mawrth neu yn hwyrach a gyda neu heb gytundeb rhwng y ddwy ochr.