Ni fydd pobol sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn gorfod wynebu cael eu croesholi gan y rhai sydd wedi eu cyhuddo o’u cam-drin mewn llysoedd teulu o hyn ymlaen.
Daw’r newid fel rhan o becyn y Llywodraeth i fynd i’r afael a cham-drin domestig. Nod y Bil drafft, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Ionawr 21), yw cefnogi dioddefwyr a’u teuluoedd a thargedu troseddwyr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mi fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cyflwyno diffiniad statudol cyntaf y Llywodraeth o gamdrin domestic i gynnwys yn benodol cam-drin ariannol, a cham-drin nad yw’n gorfforol lle mae’r dioddefwr yn cael eu rheoli.
Ni fydd yn rhaid i ddioddefwyr gan eu croesholi gan droseddwyr mewn llysoedd teulu a bydd cefnogaeth ychwanegol i gefnogi mwy o ddioddefwyr i roi tystiolaeth mewn llysoedd troseddol.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, fe gostiodd achosion cam-drin domestig £66 biliwn i Gymru a Lloegr yn 2016-17.
Roedd yr ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o’r costau hyn, £47 biliwn, o ganlyniad i niwed corfforol ac emosiynol cam-drin domestig – roedd costau eraill yn cynnwys ffioedd gwasanaethau iechyd (£2.3 biliwn), yr heddlu, (£1.3 biliwn), a gwasanaethau dioddefwyr, (£724 miliwn).
Blaenoriaethu dioddefwyr a theuluoedd
Yn ôl Gweinidog Troseddau a Diogelu Pobl Fregus, Victoria Atkin, mae hi wedi clywed “achosion torcalonnus lle mae bywydau dioddefwyr wedi cael eu heffeithio’n ofnadwy oherwydd camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu ariannol maen nhw wedi ei ddioddef.
“Mae’r Bil drafft cam-drin domestig yn cydnabod natur gymhleth y troseddau erchyll hyn ac yn rhoi blaenoriaeth i anghenion dioddefwyr a’u teuluoedd.”
Dywedodd Katie Ghose, prif weithredwr Cymorth i Fenywod, fod gan y bil y potensial i greu “newid sylweddol yn yr ymateb cenedlaethol, ac i greu dull mwy effeithiol fynd i’r afael a cham-drin domestig.”
“Rhaid i gyllid cynaliadwy ar gyfer ein rhwydwaith o wasanaethau cymorth arbenigol fod wrth wraidd hyn os ydym am wneud gwir wahaniaeth i fywydau goroeswyr.”