Mae ymgyrchwyr yn dweud bod Dug Caeredin, y Tywysog Philip wedi cael “triniaeth arbennig” wrth i’r heddlu ymchwilio i ddau ddigwyddiad dros y dyddiau diwethaf.
Ddeuddydd ar ôl i’r dyn 97 oed fod mewn gwrthdrawiad â cherbyd arall ger Sandringham yn Norfolk, cafodd ei weld yn ei Land Rover newydd sbon yn gyrru heb wisgo gwregys.
Daeth cadarnhad gan yr heddlu eu bod nhw wedi ei “gynghori” yn dilyn y digwyddiad diweddaraf.
Ymateb gweriniaethwyr
Yn ôl mudiad Republic, mae Heddlu Norfolk wedi ei drin e’n wahanol, “nid oherwydd ei oedran, ond oherwydd ei staws”.
“Gallai dwy ddynes a phlentyn fod wedi colli eu bywydau yr wythnos hon, maen nhw’n ffodus o fod wedi cerdded i ffwrdd ag anafiadau cymharol fan. Ond fydd y Tywysog Philip ddim yn wynebu’r canlyniadau.
“Yn syml iawn, fyddai hyn ddim yn digwydd pe bai unrhyw un arall wrth y llyw, waeth bynnag am eu hoedran.
“Felly mae’n rhaid herio’r heddlu ynghylch eu trugaredd tuag at y teulu brenhinol.”
Digwyddiadau’r gorffennol
Mae’r mudiad hefyd yn tynnu sylw at nifer o ddigwyddiadau yn y gorffennol yn ymwneud â’r teulu brenhinol.
Maen nhw’n honni bod Heddlu Dyffryn Tafwys wedi anwybyddu “difrod i eiddo” pan yrrodd y Tywysog Andrew i mewn i giatiau yn Windsor.
Maen nhw’n dweud bod gan yr heddlu “yr un difaterwch” y tro hwn wrth ymdrin â’i dad.
“Rydym wedi dod i ddisgwyl y difaterwch amlwg o du’r teulu brenhinol, ond mae gan yr heddlu ddyletswydd i warchod y gymuned gyfan heb ragfarn,” meddai’r datganiad.
“Rhaid i bob heddlu drin pawb yn gyfartal, ac mae rhoi amser hawdd i rywun oherwydd ei gysylltiadau teuluol yn warthus.
“Byddaf yn ysgrifennu at yr awdurdodau priodol, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, i godi’r mater hwn ac i wthio’r heddlu i feddwl eto ynghylch eu hagwedd at y teulu brenhinol.”