Mae 11 o glybiau pêl-droed yn y Bencampwriaeth wedi galw am ymchwiliad i gyfaddefiad Marcelo Bielsa, rheolwr Leeds, ei fod e wedi defnyddio ysbïo ar sesiynau ymarfer timau eraill fel ffordd o gasglu gwybodaeth amdanyn nhw.
Fe ddaeth ei sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg yr wythnos hon, lle dangosodd e ffolder i’r wasg oedd yn cynnwys gwybodaeth am dîm Derby.
Yn ystod y gynhadledd honno, fe ddaeth awgrym fod y clwb yn cwrso Daniel James, chwaraewr canol cae Abertawe.
Dydy hi ddim yn glir a yw Abertawe ymhlith y clybiau sy’n galw am ymchwiliad, ond fe ddywedodd y rheolwr Graham Potter wrth golwg360 ddydd Iau ei fod yn fater o ddangos “parch”, er nad oedd yn poeni’n ormodol am y weithred o ysbïo.
Ymchwiliad
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed yn dweud eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad.
Mae nifer o glybiau wedi mynegi pryder, meddai’r datganiad.