Mae dynes 91 oed wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau, wedi iddi fod mewn damwain rhwng pedwar cerbyd ar draffordd yr M58 yr wythnos ddiwethaf.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tra’r oedd ciw ar y draffordd  ger Bickerstaffe. Roedd dynes 50 oed a’i mab 14 newydd gael eu lladd yn yr un ardal yr un diwrnod, Ionawr 8.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10 o’r gloch yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng lori Mercedes, fan Ford Transit a dau gar – un Audi ac un Ford Fiesta.

Y wraig 91 oed o Orrell oedd yn gyrru’r Ford Fiesta, ac fe gafodd anafiadau i’w phen. Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Aintree Hosptial am driniaeth, ond bu farw yno ddoe (dydd Mercher, Ionawr 16).