Mae cynnal refferendwm yn gofyn am Ddeddf Seneddol, felly’r ffordd hawsaf i lywodraeth Theresa May drefnu ail bleidlais fyddai trwy gyflwyno Mesur pwrpasol ar gyfer hynny.
Ffordd arall fyddai trwy i Aelodau Seneddol geisio cyflwyno gwelliant i ddeddfwriaeth arall trwy gynnig refferendwm fel opsiwn.
Yn achos refferendwm 2016, fe gymrodd y broses saith mis i fynd â’r Mesur trwy’r Senedd yn San Steffan. Pe bai angen, fe ellid cyflymu’r broses ar gyfer Brexit.
Mae angen i’r Comisiwn Etholiadol bwyso a mesur cwestiwn y refferendwm er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddealladwy ac yn ddi-duedd. Mae’r broses honno, fel rheol, yn cymryd rhyw 12 wythnos (3 mis).
Fel arfer, mae’r cyfnod ymgyrchu cyn refferendwm yn cymryd 10 wythnos.
Estyniad gan Brwsel
Pe bai refferendwm arall yn cael ei ddewis fel y cam nesaf, fe fyddai’n rhaid i lywodraeth Theresa May fynd i Frwsel i ofyn am newid dyddiad ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – sef Mawrth 29.
Fe allai’r Comisiwn Ewropeaidd ddewis caniatau – neu wrthod – ymestyn cyfnod Erthyl 50, sef y broses gyfreithiol o adael.
Fel arfer, mae refferenda yn cynnig dau opsiwn – fel yn 2016, Gadael neu Aros – ond mae nifer cynyddol o Aelodau Seneddol bellach yn derbyn y byddai angen beth bynnag dri opsiwn y tro hwn: gadael efo cytundeb, gadael heb gytundeb, neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd.