Mae siop bunt enwoca’r stryd fawr, Poundland, bellach yn gwerthu modrwyau dyweddïo, ac mae’r cyfan wedi ennyn tipyn o drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ‘Bling Ring’ yn cael ei marchnata yn drwm gan y siop, gyda llai na mis i fynd tan ddiwrnod San Ffolant (Chwefror 14).
Mae un grwp ar y we, ‘Extreme Couponing and Bargains UK’ yn tynnu sylw at gynnig Poundland, ac mae wedi denu nifer fawr o sylwadau – rhai o blaid y syniad, ac eraill yn chwyrn yn erbyn rhoi £1 yn unig am symbol o gariad.
“Onid hwn ydi’r cynnig gorau erioed?” meddai un cyfrannwr. “Prynu modrwy rad o Poundland i ofyn iddi eich priodi, cyn mynd i’r siop gyda’i gilydd i ddewis y fodrwy go iawn gyda’i gilydd.”
Mae eraill, wedyn, o’r farn na ddylai’r ferch ddewis ei modrwy ei hun – ac mai rhan o’r rhamant yw cael y dyn y mae’n ei charu i ddewis modrwy ar ei chyfer.
Mae Poundland yn dweud bod y modrwyau dros dro ar gael mewn nifer o liwiau, ac mai’r pwrpas yw prynu amser i gwpwl rhwng y gofyn a’r “Gwnaf”, a’r mynd allan i brynu y fodrwy go iawn gyda’i gilydd.