Fydd gweinidogion Llywodraeth Prydain ddim yn gallu anwybyddu’r alwad am ail refferendwm Brexit pe bai cytundeb Theresa May yn cael ei wrthod, yn ôl ymgyrchwyr sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi’n dweud y gallai mwyafrif o blaid ail refferendwm orfodi Llywodraeth Prydain i alw’r refferendwm.

Fe fydd pleidlais yn San Steffan yr wythnos nesaf, a’r disgwyl yw y gallai hollti barn y Ceidwadwyr, gyda Phrif Weinidog Prydain yn wynebu’r posibilrwydd o golli’r bleidlais.

Mae aelodau seneddol eisoes wedi gwrthod derbyn Brexit heb gytundeb, ac fe allai pleidlais arall gael ei chynnal fis nesaf yn gorfodi ail refferendwm fel ateb i’r sefyllfa.

Camau

Pe bai Llywodraeth Prydain wedyn yn ceisio gadael heb gytundeb, y disgwyl yw y gallai aelodau seneddol gymryd un o nifer o gamau.

Gallai’r camau hyn gynnwys cyflwyno gwelliannau i fesurau eraill sydd eu hangen ar gyfer Brexit, a chynnal pleidlais o ddiffyg hyder mewn gweinidogion unigol.

Mae’r adroddiad wedi’i gefnogi gan yr Arglwydd Kerr, cyn-bennaeth y gwasanaeth diplomyddol, un o awduron y broses Erthygl 50.

Mae’n dweud ei fod e’n disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd awdurdodi oedi dyddiad Brexit (Mawrth 29) er mwyn cynnal refferendwm newydd.

“Mae yna drydydd opsiwn dichonadwy: fe allem gadw’r cytundeb sydd gennym fel aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Gall y Senedd gamu i mewn i fynnu mai’r bobol ddylai gael yr hawl i benderfynu.”