Mae protestwyr sydd ddim yn hapus gyda “chyfrinachedd” llysoedd teuluol yn paratoi am fis arall o gampio y tu allan i’r prif lys teuluol yn Llundain.

Mae tua dwsin o bobol wedi gosod eu pebyll y tu allan i’r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol mewn protest sydd wedi cael ei threfnu gan y sgaffaldiwr, Mark Chambers.

Dywed fod dwsinau o bobol, o wahanol rannau o Loegr sydd wedi gorfod brwydro’n gyfreithiol mewn llysoedd teuluol yn y gorffennol, yn rhan o’r brotest – gyda rhai hyd yn oed yn ymprydio.

“Mae yna ormod o gyfrinachedd ynghylch llysoedd teuluol,” meddai Mark Chambers, sy’n hanu o Lundain ac yn ei 50au.

“Dydyn ni ddim yn dweud y dylai pob gwrandawiad mewn llys teuluol fod yn gyhoeddus. Yn amlwg, mae angen i blant gael eu hamddiffyn – ond mae angen newid.

“Mae yna ormod o benderfyniadau yn cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeëdig.”