Mae Theresa May yn dweud ei bod hi’n wynebu cyfnod “heriol” wrth geisio annog aelodau seneddol i gefnogi ei chynllun Brexit, ac mae hi’n rhybuddio y byddai ei wrthod yn niweidio’r economi a democratiaeth.

Yn ôl Theresa May yn y Mail on Sunday, does yna’r un cynllun arall sy’n gallu parchu canlyniad refferendwm Ewrop 2016, diogelu swyddi a rhoi sicrwydd i drigolion a busnesau gwledydd Prydain.

“Mae yna rai yn y Senedd sydd, er gwaetha’r ffaith iddyn nhw bleidleisio o blaid cynnal y refferendwm, o blaid tanio Erthygl 50 a sefyll ar sail maniffesto sy’n ymrwymo i gyflwyno Brexit, sydd bellach am ein hatal ni rhag gadael trwy gynnal refferendwm arall,” meddai wrth annerch y ddwy garfan.

“Mae eraill yn Nhŷ’r Cyffredin yn canolbwyntio cymaint ar eu gweledigaeth nhw ar gyfer Brexit nes eu bod mewn perygl o wneud delfryd berffaith yn elyn pennaf i gytundeb da.

“Mae’r ddwy garfan wedi’u sbarduno gan yr hyn maen nhw’n credu sydd orau i’r wlad, ond rhaid i’r ddwy sylweddoli’r peryglon o redeg i ffwrdd gyda’n democratiaeth a bywoliaeth ein hetholwyr.”

Mae disgwyl i aelodau seneddol bleidleisio ar y cytundeb ar Ionawr 15.