Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant wrth fynd i wylio achos llanc arall yn llys yr Old Bailey yn Llundain.

Cafodd ei arestio yn Plaistow yn nwyrain Llundain nos Fawrth wrth geisio mynediad i’r llys.

Mae e wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron llys fis nesaf.

Roedd e yn y llys i wylio achos llanc arall 17 oed, sydd wedi’i gael yn euog o lofruddio Jordan Douherty, oedd yn 15 oed, mewn parti ym mis Mehefin.

Cafwyd llanciau 16 ac 17 oed yn euog o gynllwynio i achosi niwed corfforol bwriadol, tra bod William Nayya-Welly, 20, wedi pledio’n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Byddan nhw i gyd yn cael eu dedfrydu yn yr Old Bailey y flwyddyn nesaf.