Fe fydd y 270 o bobl a gafodd eu lladd mewn ffrwydrad awyren uwchben Lockerbie 30 mlynedd union yn ôl yn cael eu cofio mewn gwasanaeth yno heddiw.
Fe fydd torchau’n cael eu gosod yn y dref yn swydd Dumfries and Galloway yn ne’r Alban lle disgynnodd gweddillion yr awyren Pan Am wedi i fom ffrwydro ar ei bwrdd ar 21 Rhagfyr 1988.
Mewn trydariad, meddai Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon:
“Meddwl heddiw am Lockerbie a phawb a gollodd eu bywydau neu a ddioddefodd loes yn sgil yr hyn ddigwyddodd y dydd hwn 30 mlynedd yn ôl.
“Wnawn ni fyth anghofio.”