Mae Heddlu Gogledd Cymru’n rhybuddio pobl fod twyllwyr ar y ffôn wrthi ar waith yn eu hardal.
Mae hyn yn dilyn adroddiadau am bobl yn derbyn galwadau ffôn gan rywrai sy’n honni eu bod ar ran HMRC, BT, Sky a TalkTalk, yn addo ad-daliad iddyn nhw.
Mae’r dioddefwyr wedyn yn cael eu perswadio i fynd at eu cyfrifiaduron a chaniatáu mynediad o bell, ac mae’r twyllwyr wedyn yn dwyn eu harian.
“Mae’r bobl sy’n cyflawni’r troseddau hyn yn galw pobl nifer o weithiau bob dydd ac yn defnyddio rhifau ffôn gwahanol,” meddai’r swyddog diogelu yn erbyn camddefnyddio ariannol DC 2675 Rachel Roberts.
“Ein cyngor ni yw peidio â gadael i neb gael mynediad o bell i’w cyfrifiadur, rhoi manylion banc dros y ffôn na throsglwyddo arian o’u cyfrif cyn gwirio gyda’u banc yn gyntaf.”