Mae Aelodau Seneddol blaenllaw, yn rhai Llafur a Thorïaidd, yn bwriadu dwysáu eu hymdrechion i rwystro Brexit di-gytundeb.
Mewn cyfres o welliannau i fesurau seneddol, y cynllun yw gorfodi’r Prif Weinidog Theresa May i ymestyn neu ganslo Erthygl 50 os bydd rhagolygon o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Dechreuodd yr ymdrechion ddoe wrth i grŵp o ASau amlwg o dan arweiniad Yvette Cooper, gyflwyno gwelliant newydd i’r mesur cyllid i beidio â chaniatáu gadael heb gytundeb onibai bod ASau’n pleidleisio dros hynny.
“Mae risgiau i economi a diogelwch Prydain yn llawer rhy uchel a byddai’n anghyfrifol gadael i Brexit di-gytundeb ddigwydd,” meddai Yvette Cooper, cadeirydd y pwyllgor dethol materion cartref.
Ymysg y rhai sydd wedi arwyddo’r gwelliant, mae’r Tori Nicky Morgan, cadeirydd pwyllgor y Trysorlys, yr AS Llafur Hilary Benn, cadeirydd y pwyllgor Brexit, y cyn-weinidogion Torïaidd Oliver Letwin a Nick Boles, a chyn-ddirprwy arweinydd Llafur, Harriet Harman.
Gwahaniaeth barn yn y cabinet
Yn y cyfamser, fe ddaeth i’r amlwg fod gwahaniaethau barn sylfaenol ymhlith gweinidogion y cabinet ynghylch beth ddylai ddigwydd os bydd cytundeb Theresa May yn cael ei wrthod.
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke, wedi dweud na allai aros mewn llywodraeth a fyddai’n symud ymlaen â Brexit di-gytundeb.
Mae’r ysgrifennydd gwaith a phensiynau, Amber Rudd, hefyd wedi awgrymu y gallai fod dadl ddilys dros ail refferendwm os na fydd y senedd yn gallu cytuno.
Ar y llaw arall, mae eraill, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Penny Mordaunt, ac Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom wedi awgrymu cefnogaeth i’r syniad o Brexit di-gytundeb.