Pwll glo Kellingley Llun: Wikipedia
Bu farw glowr a chafodd un arall ei anafu ar ôl damwain mewn pwll glo yng Swydd Efrog brynhawn ddoe.

Bu farw’r dyn pan gafodd ei ddal yn gaeth ar ôl i’r to ddymchwel ym mhwll glo Kellingley, yng Ngogledd Swydd Efrog, yn ôl perchnogion y pwll UK Coal.

Cafodd y dyn arall ei achub gan lowyr eraill oedd yn gweithio yn y pwll ar ôl i’w goes fod yn sownd. Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 4.35pm.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y gwasanaethau brys a thimau achub wedi dod â’r ddau lowr o’r pwll am 7.30pm neithiwr. Cafodd un dyn yn ei 40au ei gludo i ysbyty Pinderfields gyda mân anafiadau, ond roedd y glowr arall, hefyd yn ei 40au, eisoes wedi marw.

Dyma’r ail drasiedi yn y diwydiant glo o fewn pythefnos yn dilyn marwolaeth pedwar glowr ym mhwll Gleision yng Nghilybebyll, ger Pontardawe ar 15 Medi. Bu farw’r pedwar ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll.

Fe fydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain.

Y llynedd bu’n rhaid i 218 o lowyr adael y pwll ar frys ar ol i nwy methane lenwi’r pwll. Ym mis Hydref  2009 bu farw’r glowr Ian Cameron, 46, yn y pwll ar ôl damwain yn ymwneud â’r offer.

Ar y pryd, roedd UK Coal wedi cael gwysion gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â phedwar marwolaeth mewn gwahanol ddamweiniau yn eu pyllau.