Mae’r cwmni bancio, Santander, wedi derbyn dirwy gwerth £32.8m gan reoleiddiwr am fethu â phrosesu cyfrifon cwsmeriaid a fu farw.

Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), fe fethodd y banc â throsglwyddo gwerth £183m o arian i fuddolwyr, gan effeithio ar 40,428 o gwsmeriaid.

Maen nhw hefyd yn dweud bod Santander wedi methu â darparu gwybodaeth am broblemau’r broses brofedigaeth a phrofiant i’r FCA pan ddaethon nhw i wybod amdanyn nhw.

Mae’r banc erbyn hyn wedi ymddiheuro i deuluoedd y cwsmeriaid ymadawedig a gafodd eu heffeithio.