Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dynes 22 oed o Essex yn Seland Newydd wedi dod o hyd i gorff.

Dydy Grace Millane ddim wedi cael ei gweld ers Rhagfyr 1.

Daeth yr heddlu o hyd i’r corff neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 8) ar ddarn o dir o harddwch naturiol eithriadol, 12 milltir o ganol dinas Auckland.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n credu mai corff Grace Millane yw e, a hynny ar sail tystiolaeth.

Mae disgwyl i ddyn 26 oed sydd yn y ddalfa fynd gerbron llys yn Auckland yfory (dydd Llun, Rhagfyr 10).

Mae’r ffordd ynghau ar hyn o bryd, wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio’r ardal ger argae Waitakere. Maen nhw hefyd yn archwilio car a gafodd ei fenthyg yn yr ardal.

Cefndir

Dydy Grace Millane ddim wedi cael ei gweld yn fyw ers Rhagfyr, y diwrnod cyn ei phen-blwydd.

Bryd hynny, roedd hi yng ngwesty Citylife yn Auckland, ac roedd dyn gyda hi.

Cyrhaeddodd hi Seland Newydd ar Dachwedd 20, ar ôl bod yn teithio yn Periw.

Bu’r heddlu’n chwilio amdani ers dydd Mercher.