Mae protestwyr yn dweud y byddan nhw’n gorymdeithio i brotestio yn erbyn gorymdaith sydd wedi’i threfnu gan Tommy Robinson, sylfaenydd yr EDL.

Bydd Tommy Robinson a’i gefnogwyr yn gorymdeithio yn Llundain yfory (dydd Sul, Rhagfyr 9) yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n achos o fradychu tros gytundeb Brexit.

Daw’r orymdaith ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei benodi’n un o ymgynghorwyr UKIP.

Bydd ymgyrchwyr o’r Blaid Lafur a grwpiau gwrth-ffasgaidd yn gorymdeithio ar yr un pryd, ac maen nhw’n cael eu hannog i wneud hynny gan ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell.

“Nid am Brexit mae’r orymdaith hon, ond eithafwyr asgell dde yn gwisgo mewn siwtio ac yn esgus bod yn barchus,” meddai.

Dywed fod pobol fel Tommy Robinson a Steve Bannon yn yr Unol Daleithiau yn “peryglu gwead ein cenedl”.

Bydd gorymdaith Tommy Robinson yn mynd o Park Lane i Sgwâr y Senedd, tra bydd yr orymdaith yn ei erbyn yn mynd o’r BBC yn Portland Place i Whitehall.