Mae Theresa May wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â chyhoeddi’n llawn y cyngor cyfreithiol a dderbyniodd Llywodraeth Prydain ynglŷn â Brexit.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth ei Chabinet ei fod yn “gonfensiwn ers tro” na ddylai “cynnwys cyngor gan swyddogion y gyfraith gael ei rannu y tu hwnt i Lywodraeth Prydain heb eu caniatâd’.

Mae’r Llywodraeth wedi bod dan y lach ers gwrthod cyhoeddi’r manylion yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 3).

Mewn datganiad gerbron Aelodau Seneddol, dywedodd y Twrne Cyffredinol, Geoffrey Cox, fod y llywodraeth wedi mynd “y tu hwnt i bob gofyn” er mwyn bodloni canlyniad y bleidlais a gafodd ei chynnal yn y siambr fis diwethaf yn galw am gyhoeddi’r manylion.

Mewn llythyr at Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, mae’n dadlau bod y cynnig ar Dachwedd 13, a gafodd ei cholli gan y Llywodraeth, yn “hynod annelwig”.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol ystyried achos o ddirmyg seneddol yn erbyn gweinidogion y Llywodraeth, cyn penderfynu a ddylen nhw alw am gyhoeddi’r manylion yn llawn ai peidio.