Mae’r fenter gymunedol sydd am droi hen siop yn Nyffryn Nantlle yn llety ac yn gaffi, wedi cael £414,000 o arian Loteri i wneud y gwaith.

Bwriad Dyffryn Nantlle 20:20 ydi gorffen y gwaith o adnewyddu’r hen Siop Griffiths yng nghanol Pen-y-groes.

Fe gafodd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf i drafod achub Siop Griffiths – neu’r hen Muriau Stores – ei gynnal yn 2014 – a’r bwriad ydi agor caffi a chanolfan ddigidol yno y flwyddyn nesaf.

Daeth y grant newydd o gynllun ‘Pawb a’i Le’, a bydd yr holl bres yn mynd at ddatblygu llety a chyflogi Swyddog Marchnata a Datblygu.

Mae’r gymuned wedi codi £60,000 ei hun i brynu’r adeilad.

Cefnogi cymuned

Yn ôl Sandra Roberts, cadeirydd Siop Griffiths, bydd y cynllun yn “datblygu hyfforddiant i bobol ifanc ym meysydd lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth, yn ogystal â chreu swyddi yn y busnesau.

“Ein nod ni ydi creu menter sy’n codi digon o incwm i gefnogi ein gweithgareddau i bobl ifanc a’r gymuned ym mhob rhan o’r adeilad,” meddai wedyn.

Erbyn hyn mae costau’r fenter yn £800,000.

Hanes yr adeilad

Yn 1911 yr agorodd siop yn Waterloo House, Heol y Dŵr, Pen-y-groes gan Thomas Griffiths.

Yna, fe gafodd hi ei symud yn 1925 i hen adeilad y Stag Hotel, a’i hailenwi’n Muriau Stores – ac yn yr un man y buodd hi ers hynny yn gwerthu deunyddiau ffermwyr a cartref, stwff adeiladu, ynghyd â chrochenwaith a llestri.