Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwrthod dadl sydd wedi cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru ar y cytundeb Brexit.

Bydd Aelodau Cynulliad yn cael cyfle i drafod cytundeb Theresa May yn y Siambr heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 4), a hynny ar yr union ddiwrnod â phan mae pum diwrnod o ddadlau arno yn cychwyn yn Nhŷ’r Cyffredin hefyd.

Mae rhai eisoes wedi lleisio’u barn ynglŷn â dadl Llywodraeth Cymru, gyda rhai’n tynnu sylw at y ffaith nad yw geiriad y ddadl yn nodi’n glir wrthwynebiad y llywodraeth i’r cytundeb fel y mae ar hyn o bryd.

Ond yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad, Paul Davies, mae’r ddadl yn mynd yn groes i ddymuniad refferendwm 2016, gyda Llywodraeth Cymru yn “chwarae gyda gwleidyddiaeth”, meddai.

“Parchu canlyniad y refferendwm”

“Yn hytrach na cheisio chwarae gyda gwleidyddiaeth a chreu rhwygiadau, dylai Llywodraeth Cymru ddod a’r pantomeim hwn i ben a pharchu canlyniad y refferendwm,” meddai Paul Davies.

“Mae dyfarniad pobol Cymru yn 2016 yn glir; maen nhw eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae’r Cytundeb Ymadael yn darparu ar y penderfyniad hwnnw.

“Dyw swydd Theresa May ddim ynglŷn â phlesio’r ddwy ochr… ei nod yw parchu canlyniad y refferendwm a sicrhau’r cytundeb gorau ar gyfer gwledydd Prydain wrth i ni gychwyn ar ddyfodol newydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.