Mae Theresa May yn wynebu wythnos heriol arall wrth iddi ymdrechu i achub ei chynllun Brexit cyn y bleidlais dyngedfennol ar 11 Rhagfyr.

Y mater cyntaf sy’n wynebu’r Prif Weinidog yw’r galwadau cynyddol ar y Llywodraeth i ddatgelu’r cyngor cyfreithiol llawn ynglŷn â’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Heddiw (dydd Llun, 3 Rhagfyr) fe fydd y Twrne Cyffredinol Geoffrey Cox yn ceisio osgoi bygythiad gan y gwrthbleidiau i ddechrau camau yn erbyn y Llywodraeth am ddirmyg y Senedd.

Mae disgwyl i Geoffrey Cox wneud datganiad yn y Senedd ac ateb cwestiynau Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin mewn ymdrech i ymateb i’w pryderon.

Mae gweinidogion wedi cael eu cyhuddo o anwybyddu dymuniad Tŷ’r Cyffredin ar ôl dweud y byddan nhw’n cyhoeddi datganiad gwleidyddol yn unig ynglŷn â sefyllfa gyfreithiol y cytundeb Brexit.

Ddydd Mawrth, fe fydd ASau yn dechrau pum diwrnod o drafodaeth am y cytundeb Brexit cyn y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae nifer sylweddol o ASau eisoes wedi dweud y byddan nhw’n gwrthwynebu’r cytundeb.