Mae cynllun i sicrhau mwy o ddiffribilwyr yng nghlybiau pêl-droed dinas Abertawe wedi ennill Gwobr Arian.
Fe ddaeth y cynllun, a gafodd ei sefydlu er cof am y pêl-droediwr lleol Mitch Joseph, yn agos iawn at gipio’r brif wobr yn y Gwobrau Busnes Pêl-droed.
Ond fe ddaeth yn ail yn y pen draw i Glwb Pêl-droed Everton yn y categori Cynllun Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Gorau.
Fel rhan o’r cynllun, cafodd 38 o ddiffribilwyr eu rhoi i’r gymuned gyda chymorth yr elusen Cariad.
Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi addo rhoi arian i brynu un diffribiliwr ar gyfer pob gôl maen nhw’n ei sgorio yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Cymeradwyo ap yr Elyrch
Cafodd ap newydd yr Elyrch gymeradwyaeth gan y beirniaid hefyd.
Fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Arloesi a’r Defnydd Gorau o Dechnoleg.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r ap gyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobrau proffesiynol.
Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth eises yn y Gwobrau Busnes Chwaraeon, y Gwobrau Technoleg Chwaraeon a Gwobrau’r Wythnos Ddylunio.