Wrecsam 0–0 Casnewydd
Bydd yn rhaid i Wrecsam a Chasnewydd ail chwarae eu gêm yn ail rownd y Cwpan FA yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr ar y Cae Ras nos Sadwrn.
Bydd y ddau dîm o Gymru’n wynebu ei gilydd eto ar Rodney Parade ar nos Fawrth, yr unfed ar ddeg o Ragfyr.
Doedd dim golwg o Sam Ricketts ar ochr y cae wrth i adroddiadau’n cysylltu rheolwr Wrecsam â swydd wag yn Amwythig barhau.
Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd serch hynny. Gwnaeth Joe Day arbediad da i atal ergyd gadarn Bobby Grant yn yr hanner cyntaf a gwnaeth Mickey Demetriou yn wych i glirio cynnig Stuart Beavon oddi ar y llinell yn yr ail.
Antoine Semenyo a gafodd gyfle gorau’r ymwelwyr ond peniodd dros y trawst o chwe llath.
Bydd yn rhaid aros ychydig dros wythnos felly i weld pa dîm fydd yn cyrraedd y drydedd rownd ond mae’n ymddangos yn gynyddol annhebygol mai Ricketts a fydd wrth y llyw erbyn hynny.
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Roberts, Lawlor, Pearson, Carrington, Walker, Wright (Young 63’), Summerfield, Rutherford (Jennings 77’), Grant, Beavon (Fondop-Talom 85’)
Cerdyn Melyn: Walker 65’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Franks, O’Brien, Demetriou, Pipe, Crofts, Bakinson, Butler, Sheehan, Amond (Harris 90+2’), Matt (Semenyo 75’)
Cardiau Melyn: Sheehan 39’, O’Brien 86’
.
Torf: 5,295