Mae gwaith cartref Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, “yn dechrau nawr”, meddai ar ôl clywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020.
Mae Cymru yng Ngrŵp E, ynghyd â Chroatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan.
Ac yn ôl Ryan Giggs, mae’n “deimlad rhyfedd” fod ei dîm wedi llwyddo i osgoi’r timau mawr yn y gystadleuaeth.
“Yn amlwg, rydych chi am gael y timau sy’n haws chwarae yn eu herbyn nhw, ond dydych chi ddim yn gwybod llawer am rai o’r timau eraill a gafodd eu tynnu allan o’r het,” meddai ar ôl y seremoni yn Nulyn.
“Mae rhai timau rydych chi’n gwybod mwy amdanyn nhw.
“Mae’r grŵp yn un cystadleuol. Dydy’r teithio ddim yn rhy ddrwg ac eithrio Azerbaijan.
“Croatia yw’r tîm sy’n sefyll allan ac mae’n briodol mai nhw yw’r ffefrynnau oherwydd yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni. Rhaid i ni chwarae’n dda i ddod drwy’r grŵp.”
Cefnogwyr
Yn ôl Ryan Giggs, fe fydd gan y cefnogwyr eu rhan i’w chwarae wrth ddilyn y tîm o amgylch Ewrop yn ystod y gemau rhagbrofol.
“Mae’r gefnogaeth yn enfawr i ni oherwydd mae’n codi’r chwaraewyr, a dydy hi ddim yn wych i’r gwrthwynebwyr os oes gyda chi’r fath gefnogaeth.
“Ar y cyfan, mae yna deithiau da iawn yma.”
Ychwanega fod ei dîm yn ffodus o fod wedi osgoi’r Almaen a’r Iseldiroedd, sy’n chwarae yng Ngrŵp C. Ond mae tipyn o waith cartref o’i flaen rhwng nawr a’r gêm gyntaf ym mis Mawrth.
“Fe wnawn ni’n gwaith cartref ynghylch sut maen nhw wedi perfformio dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy, a dw i’n edrych ymlaen at fis Mawrth.”