Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn mynnu mai hi yw’r person gorau i arwain Prydain ar ôl i broses Brexit gael ei chwblhau.

Mae hi’n mynnu bod ganddi “lawer ar ôl i’w wneud” ar ôl i’r broses fynd rhagddi.

Daeth ei sylwadau wrth iddi gymryd rhan yng nghyfarfod G20 yn yr Ariannin, lle mae arweinwyr eraill y byd yn gofyn am “sicrwydd” ynghylch y dyfodol.

Bydd hi’n treulio’r wythnos nesaf yn darbwyllo’r Senedd ynghylch ei chynllun, cyn iddyn nhw fwrw eu pleidlais ar y mater ar Ragfyr 11.

“Mae’r naw diwrnod nesaf yn gyfnod pwysig iawn i’n gwlad, yn arwain at y bleidlais ar y cytundeb hwn,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg yn Buenos Aires.

“Bydda i’n amlwg yn trafod ag Aelodau Seneddol, ac yn egluro wrthyn nhw pam fy mod i’n credu bod hwn yn gytundeb da i’r DU, pam ei fod yn gytundeb sy’n sicrhau Brexit ond sydd hefyd yn gytundeb sy’n gwarchod swyddi a’r economi, a pham y bydd pasio’r cytundeb hwn yn y bleidlais sy’n digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin yn mynd â ni’n sicr at y dyfodol, ac y byddai methu â gwneud hynny’n arwain at ansicrwydd yn unig.”

Gwaddol

Cafodd Theresa May ei holi ynghylch ei gwaddol, a sut hoffai hi gael ei chofio pe bai hi’n colli ei swydd yn arweinydd ar y Ceidwadwyr a’r Llywodraeth.

Ond wfftiodd hi’r awgrym, gan fynnu bod ganddi “lawer i’w wneud o hyd”.

“Nid lleiaf sicrhau Brexit, a bod y Prif Weinidog sy’n mynd â’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai wedyn.

‘Dim cytundeb’

Yn ystod yr uwchgynhadledd, fe fu Theresa May yn cynnal trafodaethau masnach ag Awstralia, Canada, Japan, Twrci a Chile.

Dywed fod y cyfarfod wedi bod yn “gynhyrchiol”.

Mae Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe wedi rhybuddio Theresa May na ddylai adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac y gallai hynny effeithio ar gwmnïau megis Honda a Nissan.

Ond wnaeth Theresa May ddim rhoi sicrwydd na fyddai hi’n cerdded i ffwrdd o’r trafodaethau heb gytundeb.