Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-filwr a’r sylwebydd gwleidyddol, Harry Leslie Smith, sydd wedi marw yn 95 oed.

Roedd yn hanu o Barnsley, Swydd Efrog, ond bellach yn byw yng Nghanada, yn ymgyrchydd brwd dros hawliau dynol a’r wladwriaeth les.

Yn 2014 fe ymddangosodd gerbron Cynhadledd y Blaid Lafur i sôn am fywyd cyn y Gwasanaeth Iechyd.

Cafodd ei farwolaeth ei gyhoeddi y bore yma (dydd Mercher, Tachwedd 28) ar ei dudalen Twitter, sydd â dros 250,000 o ddilynwyr.

Roedd wedi bod mewn cyflwr wael yn yr ysbyty yn Ontario, Canada, yn dilyn cwymp yr wythnos ddiwethaf.

“Unigryw”

Ymhlith y rheiny sydd wedi talu teyrnged iddo mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.

“Roedd e’n berson unigryw na ildiodd yn ei frwydr dros gydraddoldeb a chyfiawnder,” meddai. “Fe ddylem oll gario ei angerdd, ei optimistiaeth a’i ysbryd ymlaen i’r dyfodol.”

Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Luke Pollard, hefyd wedi cyhoeddi rhai geiriau o deyrnged, gan ddweud bod ganddo atgofion da o Harry Leslie Smith yn ymuno ag ef yn Plymouth cyn yr Etholiad Cyffredinol 2015.

“Roedd e’n hen a llesg ond yn llawn bywyd,” meddai. “Roedd ei anogaeth a’i bositifrwydd yn wir ysbrydoliaeth.”

Daeth y cyn-beilot yn y RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd i enwogrwydd yn 2013, ar ôl sgrifennu erthygl i bapur The Guardian yn datgan na fydd bellach yn gwisgo’r papi coch, gan ei fod yn teimlo bod y symbol yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo rhyfeloedd.