Mae bron i ddeugain o bobol wedi’u harestio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yn dilyn cyrch gan yr heddlu yn erbyn cyffuriau.

O’r cyfanswm o 37 o bobol a gafodd eu harestio, mae 28 ohonyn nhw wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i ddosbarthu cyffuriau fel cocên a heroin.

“Mae mynd i’r afael â chyffuriau o fewn ein cymunedau yn flaenoriaeth i ni yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Mae targedu pobol ddiniwed yn hollol annerbyniol i ni.”