Mae Theresa May wedi ysgrifennu llythyr “i’r genedl”, gan fynnu mai’r cytundeb Brexit presennol yw’r un gorau i wledydd Prydain.

Mae Prif Weinidog Prydain hefyd yn dweud y bydd y cytundeb sydd yn ei le ar hyn o bryd yn llwyddo i bawb, waeth bynnag sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm yn 2016.

Bydd y cytundeb yn “anrhydeddu canlyniad y refferendwm”, meddai, sy’n golygu rheoli ffiniau unwaith eto, yn ogystal â chael rheolaeth dros arian, y gyfraith a pholisïau ym meysydd amaeth a physgodfeydd.

Mae hi hefyd yn dweud y bydd y cytundeb o fudd i bedair gwlad Prydain ac i diroedd eraill Prydain ar draws y byd.

Mawrth 29, 2019

Bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol ar Fawrth 29 y flwyddyn nesaf.

Ac yn ôl Theresa May, bydd y diwrnod hwnnw’n “foment o adnewyddu a chymodi” yng ngwledydd Prydain, “pan fyddwn yn gosod labeli ‘Gadael’ ac ‘Aros’ o’r neilltu am byth, a dod ynghyd unwaith eto fel un dorf o bobol”.