Mae Centrica, perchennog British Gas a darparwr ynni mwyaf gwledydd Prydain, yn gorfod cyflwyno.cap o £70m ar ei enillion, wedi i 372,000 o gwsmeriaid adael.

Mi fydd effaith yr enillion yn cael ei gymryd yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf, gyda’r cap yn cael ei gyflwyno ar Ionawr 1.

Fe gollodd British Gas 372,000 o gyfrifon nwy a thrydan yn y pedwar mis yn arwain at Dachwedd 1 eleni, ar ôl i bobol symud at gyflenwyr eraill.

Mae gan British Gass 3.1 miliwn o gwsmeriaid ar ei dariffiau newidiol safonol (SVT), i lawr o 4.3 miliwn ar ddechrau’r flwyddyn – ac mae disgwyl i hyn ostwng yn is na 3 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.