Mae bos newydd y Post Brenhinol yn addo “gweithredu”, yn dilyn cwymp sylweddol yn elw’r cwmni yn ystod y chwe mis yn arwain at fis Medi eleni.
Maen nhw wedi cofrestru cwymp o 27% yn yr elw cyn-treth, i £183m.
Roedd enillion y cwmni, cyn ystyried gwariant diweddar ar ail-strwythuro, hefyd yn sylweddol is, i lawr 25% i £242m.
Fe ddaw hyn wythnosau’n unig wedi i’r Post Brenhinol rybuddio y byddai elw i lawr – rhybudd a achosodd i’w cyfranddaliadau brofi’r cwymp mwyaf erioed ar y farchnad stoc.
Yn ôl Rico Back, mae eleni wedi bod yn gyfnod “heriol”, ond er hynny, mae wedi’i siomi gan berfformiad y cwmni. Mae’n addo y bydd yn dod â nhw yn ôl o’r dibyn, gan dorri ar gostau ac yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol unwaith eto.
“Fe fydd yna fwy o bwyslais ar y ffordd y byddwn ni’n cysylltu â’n cwsmeriaid, cwmnïau a gwledydd eraill, trwy ein busnesau cartref a rhyngwladol. Fe fydd yna ffocws cliriach ar berfformiad, ac fe fydd yn rhaid i reolwyr fod yn fwy atebol.”
Fe fydd Rico Back yn adrodd ar fanylion ei gynllun busnes ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.