Mae arbenigwyr o rai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd wedi datblygu dyfais a fydd yn ceisio atal pedoffiliaid rhag gweithredu ar-lein.
Mae Microsoft, Facebook, Google, Snap a Twitter, wedi bod yn cydweithio yn yr Unol Daleithiau yr wythnos ddiwethaf, yn ystod ‘hackathon’ a gafodd ei threfnu gan yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid.
Mewn araith ym mis Medi, ceisiodd yr Ysgrifennydd Cartref annog y byd technolegol i wneud mwy i fynd i’r afael â drwgweithredwyr ar-lein, wrth i ystadegau ddangos bod tua 800,000 o bobol yng Nghymru a Lloegr yn fygythiad i blant ar y we.
Adnabod sgyrsiau
Yn ystod yr ‘hackathon’, bu arbenigwyr yn pori trwy filoedd o sgyrsiau er mwyn adnabod y patrymau y mae pedoffiliaid yn eu defnyddio wrth siarad â phlant ar y cyfryngau cymdeithasol.
Nod y ddyfais felly yw adnabod y sgyrsiau hynny, cyn eu trosglwyddo at reoleiddiwr ar gyfer cael eu harchwilio.
Dyw’r ddyfais ddim yn barod eto, ond unwaith y bydd wedi’i datblygu’n llawn, bydd yn cael ei thrwyddedu am ddim i gwmnïau bychain ledled y byd.
“Cam cadarnhaol ymlaen”
“Mae gennym oll gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r drwgweithredu rhywiol yn erbyn plant ar y we, ac mae datblygu’r ddyfais newydd hon yn ystod yr ‘hackathon’ yn gam cadarnhaol ymlaen,” meddai Sajid Javid.
“Unwaith y bydd wedi’i chwblhau, bydd yn cael ei darparu i gwmnïau sydd eisiau ei defnyddio.
“Dyma un peth y gallwn wneud gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r drosedd afiach hon.”