Mae angen gwneud mwy mewn ysgolion yng Nghymru i atal bechgyn rhag lladd eu hunain, yn ôl elusen.

Daw’r alwad gan y Samariaid yng Nghymru wrth i ystadegau ddangos bod lefelau uchel o ddynion yng Nghymru yn dewis diweddu eu bywydau.

Yn 2017, bu farw 360 o bobol yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad, gyda 77% o’r rheiny’n ddynion.

Mae’r elusen hefyd yn dangos mai dynion sydd rhwng 40 a 44 sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain, a’r ffaith bod y lefel o hunanladdiadau ddwywaith i deirgwaith yn fwy mewn ardaloedd tlawd o gymharu â rhai cyfoethog.

“Wynebu’r dyfodol gydag optimistiaeth”

Er bod y Samariaid yng Nghymru yn croesawu’r cwricwlwm addysg newydd a fydd yn cael ei gyflwyno i ysgolion yng Nghymru cyn hir, maen nhw galw am addysg orfodol ar iechyd meddwl.

Mae angen hyn, medden nhw, er mwyn lleihau’r pwysau emosiynol ar blant a phobol ifanc ac i roi hyder i athrawon allu trafod materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl gyda’u disgyblion.

“Rhaid inni arfogi bechgyn a dynion ifanc â’r gwydnwch a’r sgiliau i reoli eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl fel y gallan nhw wynebu’r dyfodol gydag optimistiaeth,” meddai Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru.

“Rhaid i waith effeithiol i atal hunanladdiadau gael ei seilio ar ataliaeth ac ymyrraeth gynnar er mwyn inni leihau nifer y bobol sy’n cyrraedd pwynt argyfwng ar ben arall y raddfa.”