Mae cynnal ail refferendwm Brexit yn bosibilrwydd o hyd, meddai llefarydd materion tramor y Blaid Lafur, Emily Thornberry, wrth iddi wfftio sylwadau’r arweinydd Jeremy Corbyn.
Wrth wadu bod y blaid yn mynd ar ôl “ffantasi”, eglurodd Emily Thornberry, mewn cyfweliad â’r papur newydd Almaenig Der Spiegel, fod Jeremy Corbyn yn egluro’r drefn yn unig pan ddywedodd fod refferendwm eisoes wedi’i gynnal yn 2016.
Mae angen “chwistrelliad o ddemocratiaeth” drwy gynnal “pleidlais ystyrlon” yn y Senedd yn San Steffan, meddai wrth raglen Andrew Marr ar BBC1.
“Mae Theresa May, yn syml, yn rhoi cyfyng gyngor i ni – mae hi’n dweud y gallwch chi naill ai gwympo oddi ar glogwyn neu fynd ar bont i nunlle, ac fe fydd rhaid i chi bleidleisio ar sail hynny.
“Dydy hynny ddim yn bleidlais ystyrlon, dydy hynny ddim yn chwistrelliad o ddemocratiaeth.”
Dywed y dylid cynnal etholiad cyffredinol oni bai bod Theresa May yn cynnig “awgrym teidi”, a bod hynny’n cynnwys cynnal Pleidlais y Bobol.
Awgrym Llafur
Dywed Emily Thornberry nad yw hi wedi cael “sgwrs ddifrifol” am Brexit â swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel sy’n dweud y gallai Prydain aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau ar ôl ymadael.
“Ond yr hyn rydyn ni wedi ei gael yw trafodaethau, ac maen nhw’n gwybod beth rydyn ni eisiau ei gael, ac maen nhw’n gwybod mai democratiaid ydyn ni, a phe baen ni yn eu sefyllfa nhw, bydden nhw’n ceisio trafod yn union yr un modd ag yr ydyn ninnau.”
Mae hi’n gwadu bod yr hyn y mae Llafur yn ei gynnig yn “brospectws ffantasïol”.