Mae dyn 27 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ddwyn fan heddlu o orsaf yn Suffolk.

Cafodd y Vauxhall Vivaro ei ddwyn o orsaf yn Lowestoft nos Sadwrn (Tachwedd 10).

Cafwyd hyd i’r cerbyd yn Bungay – 17 milltir i ffwrdd – am 1 o’r gloch y bore.

Mae’r dyn o Bungay yn cael ei holi yn y ddalfa yn Great Yarmouth.