Mae gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei gynnal mewn capel bach yn Sir Ddinbych heddiw (Tachwedd 11), er mwyn cofio am chwech o fechgyn lleol a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Roedd pedwar o’r bechgyn hynny yn aelodau o’r capel a fydd yn cynnal y gwasanaeth, sef Capel Waengoleugoed ger Llanelwy.
Yn ôl yr Athro Mari Lloyd-Williams, ysgrifenyddes y capel, fe aeth 15 o fechgyn o’r ardal leol i’r Rhyfel, ond dim ond naw ohonyn nhw’n a ddychwelodd – “ergyd” i ardal fechan, meddai.
“Does dim llawer o gapeli, hwyrach, yn cynnal gwasanaeth, ond i gapel a oedd gyda rhyw 30-40 o aelodau ar y pryd, roedd colli pedwar aelod y tu hwnt i beth gallwn ni feddwl amdano,” meddai wrth golwg360.
“Mae mor bwysig ein bod ni’n cofio.”
Gwasanaeth syml
Cafodd gwasanaeth tebyg ei gynnal yn y capel yn 2014 er mwyn dynodi canrif ers dechrau’r Rhyfel Mawr.
“Be ddaru ni ei wneud yn 2014 oedd gwahodd pob capel ac eglwys [yn yr ardal] i gynnau cannwyll am awr,” meddai Mari Lloyd-Williams.
“Roedd hynny’n golygu ein bod ni’n gallu dod at ein gilydd i gael ychydig o dawelwch i drio meddwl sut roedd o’n teimlo pan oed y rhyfel yn cychwyn.”
Agored i bawb
Gwasanaeth “syml”, tebyg i’r un yn 2014, fydd yn cael ei gynnal yn Waengoleugoed ar Sul y Cofio eleni, gyda’r gobaith y bydd rhai o ddisgynyddion y cyn-filwyr yn ymuno â’r oedfa.
“Rydym ni wedi rhoi nifer o hysbysebion yn y papurau lleol a phapurau Lerpwl i drio gweld os ydym ni’n gallu cael teuluoedd i ddod,” meddai Mari Lloyd-Williams.
“Mae yna ddau deulu wedi cysylltu – un oedd yn weddol lleol yn barod, a theulu arall, oedd gynnon ni ddim cysylltiad â nhw, sy’n or-nai i un o’r milwyr.”
Y chwech
Bydd enw’r chwe gŵr a gafodd eu lladd yn cael eu cofio’n unigol yn yr oedfa, sy’n cael ei arwain gan Richard Owen, sydd wedi ymchwilio i hanes y milwyr.
– Henry (Harry) Bibby, Fachwen Hall;
– Joseph Davies, Cyffredin Farm;
– John Hugh Jones, Ysgol Isaf;
– Joseph C Jones, Bwthyn Arthur;
– Thomas Allen Jones, Fachwen Cottages;
– Thomas Hugh Jones, Salisbury Villa.
Dyma glip o Mari Lloyd-Williams yn sôn ychydig am eu hanes…