Bydd y “gyfeillgarwch” rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn parhau yn dilyn Brexit, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor.
Yn siarad yn Ffrainc ddydd Iau (Tachwedd 8) mae disgwyl iddo dfweud bod y ddwy wlad yn “cystadlu ac yn cydweithio, yn debyg ond yn wahanol hefyd”.
Bydd y gweinidog yn siarad yn Ffrangeg ym Mharis, ac yn mynnu bod y berthynas rhwng y ddwy wlad “uwchlaw Brexit”.
“Cefnogaeth”
“Fyddwn ni byth yn anghofio’r gefnogaeth wnaeth Ffrainc ddangos i ni yn dilyn ymosodiad [brawychol] Arena Manceinion.
“Gwnaeth y dorf yn Stade de France ganu’r anthem Brydeinig. Ac yn dilyn ymosodiad [brawychol] Bataclan [yn Ffrainc] gwnaeth torf yn Wembley ganu’r Marseillaise.”