Mae warden eglwys a chonsuriwr wedi’u cyhuddo o lofruddio dau gymydog o fewn 18 mis i’w gilydd.

Bu farw Peter Farquhar, darlithydd 69 oed, ym mis Hydref 2015, a’i gymydog 83 oed, Ann Moore-Martin fis Mai y llynedd.

Roedden nhw’n byw dri thŷ oddi wrth ei gilydd ym mhentref Maids Moreton yn Swydd Buckingham.

Mae disgwyl i’r warden eglwys 28 oed, Ben Field, a Martyn Smith, consuriwr 32 oed, fynd gerbron ynadon yn High Wycombe heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 7).

Y cyhuddiadau

Mae Ben Field wedi’i gyhuddo o ddau achos o gynllwynio i lofruddio, un achos o lofruddio, un achos o geisio llofruddio, dau achos o dwyll a thri achos o fwrgleriaeth.

Mae Martyn Smith wedi’i gyhuddo o ddau achos o gynllwynio i lofruddio, un achos o lofruddio, un achos o geisio llofruddio, un achos o dwyll a dau achos o fwrgleriaeth.

Mae dyn 22 oed wedi’i gyhuddo o un achos o gynllwynio twyll, un achos o gynllwynio twyll drwy anwiredd ac un achos o amau twyll drwy anwiredd. Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.