Mae cynnydd yn y cyflog byw wedi cael ei gyhoeddi a fydd yn rhoi tal ychwanegol i tua 180,000 o weithwyr.

Mi fydd y cyflog byw yn cynyddu 25c yr awr i £9 ar draws y Deyrnas Unedig a 35c i £10.55 yn Llundain.

Mae hyn yn golygu y bydd y gyfradd newydd cyflog byw £1.17 yn uwch y tu allan i Lundain a £2.72 yno.

Costau trafnidiaeth uwch, rhentu preifat a threth gyngor sy’n gyfrifol am y cynnydd yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw.

“Byw bywyd o urddas”

“Mae busnesau cyfrifol yn ymwybodol nad yw isafswm y Llywodraeth yn ddigon i fyw arno,” meddai cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw, Tess Lanning.

“Mae cyflogwyr sy’n talu’r cyflog byw go iawn yn galluogi eu gweithwyr i fyw bywyd o urddas, gan eu cynorthwyo i dalu dyledion a bodloni pwysau talu biliau.

“Rydym eisiau gweld cynghorau lleol, prifysgolion, clybiau pêl-droed, cwmnïau bysiau a chyflogwyr y sector cyhoeddus a phreifat eraill ym mhob dinas yn ymrwymo i ddod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn.”