Mae mwy na 70 o benaethiaid busnes yn galw am gynnal ail refferendwm Brexit – neu ‘Bleidlais y Bobol’ – gan rybuddio fod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – gyda chytundeb neu hebddo – yn waeth nag aros.

Mae eu llythyr yn rhybuddio bod Prydain yn symud tuag at Brexit caled, a fyddai’n niweidiol i fusnesau ac yn peryglu swyddi.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae penaethiaid Waterstones, cwrw Cobra a Sainsbury’s, ynghyd â chyn-bennaeth Marks & Spencer, sylfaenydd gwefan Zoopla a chyn-gadeirydd Rolls Royce.

Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair hefyd yn galw mewn erthygl yn yr Observer am gynnal Pleidlais y Bobol.

Daw’r llythyr a’r erthygl bythefnos ar ôl rali o fwy na hanner miliwn o bobol yn Llundain.

Y llythyr

“Cafodd y gymuned fusnes addewid, pe bai’r wlad yn pleidleisio dros adael, y byddai masnachu heb wrthdaro gyda’r Undeb Ewropeaidd yn parhau, ynghyd â’r sicrwydd am berthnasau yn y dyfodol sydd eu hangen er mwyn buddsoddi yn y tymor hir,” meddai’r llythyr.

Mae’r llythyr yn ychwanegu y byddai’n well i Brydain pe bai’n aros yn yr Undeb Ewropeaidd na derbyn yr hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.

Mae’n cyfeirio hefyd at “gwymp mewn buddsoddi” a fydd yn gwneud Prydain yn “dlotach”.

A chan fod dewis bellach rhwng ansicrwydd a Brexit caled, dywed y llythyr y dylid “rhoi’r dewis terfynol yn ôl i’r cyhoedd gyda Phleidlais y Bobol”.

Ymateb

Mae trigolion gwledydd Prydain “wedi cael dweud eu dweud”, meddai llefarydd ar ran Adran Brexit San Steffan mewn datganiad.

Dywed y llefarydd fod “y Prif Weinidog wedi egluro na fydd yna ail refferendwm”, a’u bod yn ffyddiog o hyd y bydd modd dod i gytundeb.